Chi fel Defnyddiwr

Cwmni cydweithredol ydy Cynhyrchwyr Cig Oen ac Eidion Cyf (WLBP) sy’n eiddo i fwy na 7,000 o ffermwyr yng Nghymru.
Nod WLBP ydy cryfhau hyder defnyddwyr drwy gynnig sicrwydd o ran safonau ar y  fferm sy’n cael ei weithredu drwy Gynllun Gwarant Cig Eidion a Chig Oen Da Byw Cymru (FAWL)

  • Bydd ffermydd yn cael eu asesu gan QWFC (Quality Welsh Food Certification Ltd)  sydd wedi’i achredu’n annibynnol gan Wasanaeth Achredu’r Deyrnas Unedig (UKAS) yn unol â safonau Ewropeaidd caeth.
  • Bydd ffermydd cig eidion a defaid ardystiedig yn cael eu hasesu gan aseswyr cymwysedig i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â safonau FAWL.
  • Felly, gall defnyddwyr fod yn hyderus y byddan nhw, trwy brynu cig Eidion a chig Oen o Gymru y byddan nhw’n prynu cig o ffermydd sydd â gwarant o ran safon y cig fel y byddai rhywun yn ei ddisgwyl o borfeydd gwyrddion Cymru.

Chi fel Cynhyrchydd

Mae ffermio da byw yn hynod bwysig i gefn gwlad Cymru ac mae cynaliadwyedd ffermio da byw yng Nghymru yn ddibynnol ar wella marchnata gwartheg a defaid.

Mae cwmni Welsh Lamb and Beef Producers Ltd (WLBP) yn ymroddedig i hyrwyddo a marchnata Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru mewn marchnadoedd gartref a thramor. Mae Cynllun Gwarant Fferm Da Byw Cyf (FAWL) Cig Eidion a Chig Oen yn tanlinellu’r amcan hwnnw.

  • Mae aelodaeth o FAWL yn dangos ymrwymiad i gynnal safonau uchel o les anifeiliaid a hwsmonaeth dda sydd yn ei dro yn cryfhau ymgyrch hyrwyddo gwaith WLBP ar ran ffermwyr Cymru.
  • Mae adfer a chadw hyder defnyddwyr yn hanfodol ar gyfer dyfodol amaethyddiaeth yng Nghymru.
  • Mae Cynllun Gwarant Fferm Da Byw (FAWL) bellach yn gyswllt pwysig yn y gadwyn gyflenwi ac mae nifer cynyddol o broseswyr yn mynnu bod stoc yn cael ei brynu o ffermydd  sy’n rhan o Gynllun Gwarant Fferm Da Byw (FAWL). Mae’r Cynllun Gwarant Fferm Da Byw (FAWL) yn rhoi cyfle i gynhyrchwyr ddarparu tystiolaeth o'u harbenigedd a'u hymrwymiad i gynnal safonau a safon.
  • Fel aelod o’r Cynllun Gwarant Fferm Da Byw (FAWL), byddwch yn gallu marchnata eich da byw gyda'r sicrwydd bod ardystiad o’r Cynllun Gwarant Fferm Da Byw yn rhoi’r hyder i chi eich bod yn cyfrannu hefyd at farchnata Cig Eidion a Chig Oen Cymru yn well.